Tir halogedig – RhCT (Rhyddhad Adfer Tir)
Cefndir
Cyflwynwyd deddfwriaeth gan Ddeddf Cyllid 2001 Atodlen 22 i ddarparu rhyddhad treth ar dir halogedig i gwmnïau sydd wedi caffael tir naill ai at ddibenion eu masnach neu fel buddsoddiad.
Mae’r rhyddhad ar ffurf didyniad o 150% o’r gost yr eir iddi ond lle na all cwmni gael rhyddhad ar unwaith gall ildio’r golled i CThEM yn gyfnewid am daliad arian parod.
Trosolwg
Y prif agweddau o fewn y ddeddfwriaeth yw:
- pwy all hawlio'r rhyddhad?
- pa fath o wariant sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad?
- pryd y gellir hawlio rhyddhad treth?
- cyfradd y rhyddhad
- yr ad-daliad arian parod
Pwy all hawlio'r rhyddhad?
- dim ond cwmnïau - unigolion a phartneriaethau sy'n cael eu heithrio
- gall datblygwyr eiddo hefyd hawlio’r rhyddhad
Pa fath o wariant sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad?
Rhyddhad os rhoddir rhyddhad ar gyfer gwariant adfer tir cymwys nad yw fel arall yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth a lle na hawliwyd rhyddhad treth o’r blaen.
Dim ond i dir sydd wedi’i leoli yn y DU y mae’r rhyddhad yn berthnasol ac mae angen bodloni 5 amod. Y gwariant:
- rhaid iddo fod ar dir halogedig ar adeg ei gaffael
– ni all person sy’n achosi’r halogiad hawlio’r rhyddhad
– tir halogedig yw lle mae/gall fod niwed yn cael ei achosi (e.e. asbestos) neu lle mae dŵr llygredig - ar waith adfer perthnasol a wnaed i gywiro, atal neu liniaru effaith llygredd neu adfer tir/dŵr i’w gyflwr blaenorol
- rhaid iddo fod ar gostau cyflogai neu is-gontract neu ddeunyddiau a dynnir gan y cwmni, yn ddarostyngedig i amodau
- mae'n rhaid ei fod wedi digwydd oherwydd bod y tir wedi'i halogi
- rhaid peidio â chael cymhorthdal (e.e. grant) er y gellir cymhwyso dosraniad ar sail gyfiawn a rhesymol i bennu faint o’r gwariant sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad treth
Pryd y gellir hawlio rhyddhad treth?
- rhaid i’r hawliad gael ei wneud o fewn 2 flynedd i ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu yr aethpwyd i’r gwariant
- rhaid i’r hawliad gael ei wneud yn ysgrifenedig ac o fewn ffurflen dreth y cwmni
- gellir diwygio neu dynnu’r hawliad yn ôl hyd at 12 mis ar ôl i ffurflen dreth y cwmni gael ei ffeilio
- er y dylai buddsoddwr/masnachwr gael didyniad treth ar gyfer gwariant cyfalaf pan eir i’r gost, yn achos datblygwr eiddo, lle mae’r gwariant perthnasol yn cael ei ddwyn ymlaen yng ngwerth y stoc cau, nid yw’r gwariant i bob pwrpas yn ddidynadwy hyd nes y caiff ei godi ar y cyfrif elw a cholled
Cyfradd y rhyddhad
Mae’r rhyddhad yn 150% o’r gwariant cymhwyso gwirioneddol a dynnwyd mewn cyfnod cyfrifo.
Yr ad-daliad arian parod
Lle nad yw cwmni’n gallu hawlio’r didyniad o 150% yn y flwyddyn o wariant, efallai oherwydd nad oes digon o elw trethadwy, ac ni all ildio’r golled fel rhyddhad grŵp/consortiwm:
- gall ildio’r golled i CThEM yn gyfnewid am daliad arian parod di-dreth o 16%
- y golled y gellir ei hildio yw’r isaf o 150% o’r gwariant adfer tir cymwys a cholled y cwmni heb ei rhyddhau am y flwyddyn
- Ni fydd CThEM yn talu’r cwmni nes bod ei rwymedigaethau TWE/CYG wedi’u setlo ar gyfer y flwyddyn o wariant
- mae'r ad-daliad yn denu llog
- ni ellir hawlio rhyddhad treth mewn cyfrifiad CGT unwaith y bydd rhyddhad adfer tir wedi ei hawlio
Engraifft
£1m o wariant cymwys
x 150% = £1.5m o ddidyniad treth neu, os caiff ei ildio i CThEM
£1.5m x 24% = £360,000 o swm di-dreth gan CThEM